MNDA-North-West-Wales-Group-Banner-cymraeg

Cefnogaeth & Gofal

Yma cewch wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael yn lleol.

Cliciwch ar yr enw am fwy o wybodaeth

 

Jo CunnahCydlynydd Datblygu Gwirfoddolwr Cymru, Gogledd Iwerddon ac Ynys Manaw.

Rwyf wedi gweithio mewn Datblygu Gwirfoddolwr o fewn y sector Elusennau Iechyd ers 14 mlynedd yn dilyn newid gyrfa o Wasanaethau Ariannol yn 2003. Mae fy rôl yn golygu recriwtio a chefnogi Gwirfoddolwyr mewn nifer o swyddogaethau ac yn neilltuol Gwirfoddolwyr o fewn ein rhwydwaith o Ganghennau a Grwpiau.

Rwyf wedi bod gyda'r Gymdeithas am bron i dair blynedd ac yn ystod yr amser yma rwyf wedi bod mor ffodus i fod yn rhan o ddim gwerth chweil sydd wedi ein cynorthwyo i ddatblygu ein cyrhaeddiad ar draws Gogledd Cymru. Gyda'n gilydd rydym wedi cryfhau nifer y Gwirfoddolwyr o fewn cangen Clwyd a Grŵp Gogledd Orllewin Cymru, ac wedi codi nifer yr Ymwelwyr Cymdeithas o un i chwech. Golyga hyn ein bod nid yn unig wedi codi yn sylweddol lefel y gefnogaeth sydd ar gael i bobl sy'n dioddef o glefyd Motor Niwron a'u teuluoedd, ond ein bod yn gallu cynnig y gefnogaeth hon mewn amrywiaeth o ffyrdd.

Un uchafbwynt i mi yw datblygiad Fforwm Gogledd Cymru. Mae'r Fforwm wedi galluogi staff a Gwirfoddolwyr i ddod at ei gilydd i drafod, ffurfio a datblygu ein gwaith ar draws Gogledd Cymru ac mewn dim ond blwyddyn mae hyn wedi tyfu i rywbeth arbennig iawn.

Gweithio gyda Gwirfoddolwyr yw fy angerdd ac rwyf yn ffodus dros ben i allu gweithio gyda thîm rhyfeddol o Wirfoddolwyr ar draws Gogledd Cymru. Heb eu gwaith caled, ymrwymiad a chefnogaeth, yn syml ni allwn wneud yr hyn yr ydym yn ei wneud felly gobeithiaf fod yr angerdd hwn yn amlwg pan fydd pobl yn fy nghyfarfod.

Ar nodyn personol, rwyf yn byw yng Ngogledd Cymru gyda fy nheulu. Mwynhaf goginio, unrhyw beth i wneud gyda sioeau cerdd ac ar ôl nifer o flynyddoedd bellach rwyf yn parhau i geisio dysgu sut i chwarae piano!

Ymwelydd Cysylltiol (AV)

Sioned WilliamsFy enw i yw Sioned Williams ac rwyf yn wirfoddolwraig newydd gyda Mudiad Motor Niwron fel AV. Rwyf yn byw ym Mhen Llyn ac yn briod a mam balch i ddau o fechgyn, un sy’n 7 mlwydd oed a’r llall yn 8 mlwydd oed.

Rwyf wedi gofalu am aelod agos o’m teulu yn y gorffennol gyda chlefyd Motor Niwron ac yn awr yn gwirfoddoli gyda’r mudiad gan obeithio bod o gymorth i eraill – rwyf yn teimlo’n ffodus iawn o gael cwrdd a’r unigolion a’u teuluoedd sydd bob amser yn garedig yn fy nghroesawu i’w cartref a’u bywydau

Cyn fy mhrofiad personol doeddwn i ddim yn gwybod llawer am y clefyd Motor Niwron ond rwyf wedi dysgu cymaint dros y 7 mlynedd diwethaf ac wedi cwrdd a phobl caredig iawn ar hyd y daith, roeddwn eisiau rhoi rhywbeth yn ôl ac rwyf yn falch o fod nawr yn gwirfoddoli gyda’r Mudiad Motor Niwron. Edrychaf ymlaen i’ch cwrdd!

Lynwen GriffithYmwelydd Cysylltiol (AV)

Fy enw i yw Lynwen Griffith. Yr wyf yn byw ar y Llyn yn gogledd-orllewin Cymru, rhanbarth gwledig a hardd iawn sydd hefyd yn gadarnle i'r iaith Gymraeg. Rwy’n byw gyda fy ngwr, ein tri o blant, dwy gwningen a tri ci, ac wedi gweithio yn y maes hwn ers 22 mlynedd fel nyrs gymunedol.

Mae fy rheswm i fod yn Ymwelydd Cysylltiol yn ddeublyg. Wedi cael nyrsio pobl â MND teimlais fod yn fy amser sbâr gallai gynnig cymorth i'r cleifion hyn a'u teuluoedd. Fy ail reswm oedd fel y mae ein ardal mawr Cymraeg cymunedol, nid oedd unrhyw AV Cymraeg yn ein hardal leol, a gwelwyd ei bod yn bwysig y dylai pobl gael gwasanaeth sydd ar gael yn eu dewis iaith.

Ers bod yn AV, canfûm y gwaith i fod yn hynod werth chweil, gallu i gynorthwyo unigolyn â MND a'u teuluoedd yn ystod cyfnodau anodd iawn. Mae cymorth gan y tîm MND bob amser wrth law, fod yn gydymdeimladol ac yn gefnogol. Fy nod yw parhau â rôl werth chweil hon ers blynyddoedd lawer a parhau i wella fy ngwybodaeth am MND a'r cymorth sydd ar gael i wella ansawdd bywyd.

 

MNDA Support Meeting

Cyfarfod Nesaf

Bydd ein cyfarfod nesaf ar 14/06/23 am 2:30pm yn Ty Golchi, Bangor, Gwynedd, LL57 4BT

MND Connect - 0808 802 6262

Donate to MNDA

Rhoddi

JustGiving
Mae gennym dudalen JustGiving ble gallwch wneud rhodd ar-lein - cliciwch yma

 

© 2023 Cymdeithas Clefyd Motor Niwron Gogledd Orllewin Cymru. Cedwir pob hawl. Gwefan wedi'i Dylunio a'i Noddi gan Delwedd.