MNDA-North-West-Wales-Group-Banner-cymraeg

Cymryd Rhan

Codi Arian ac Ymwybyddiaeth

Mae Grŵp Cefnogi CMN Gogledd Orllewin Cymru yn anelu i wasanaethu'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gyda Chlefyd Motor Niwron yn yr ardal. Mae hyn yn cynnwys pobl gyda CMN, eu gofalwyr, teulu a ffrindiau. A dweud y gwir rydym yma i unrhyw un sydd wedi cael eu heffeithio mewn unrhyw ffordd gan y clefyd.

Mae ein Grŵp Cefnogi yn cynnal cyfarfodydd misol dros baned a theisen i bobl sy’n byw gyda CMN a’u gofalwyr. Mae hyn yn gyfle da i gyfarfod pobl eraill sy’n byw gyda’r clefyd, ac i rannu profiadau a syniadau.

Un agwedd bwysig o weithgareddau'r Grŵp yw codi arian ac ymwybyddiaeth, ac felly byddwn yn trefnu sawl digwyddiad yn ystod y flwyddyn. Ein bwriad yw gadael i chi wybod am y cyfleoedd codi arian yma ar ein gwefan felly cofiwch adael i ni wybod os gallwch sbario e.e. awr neu ddwy i sefyll gyda bwced casglu neu i bacio bagiau siopa. Mae Gwirfoddolwyr yn helpu i sicrhau fod pobl gyda CMN a’u teuluoedd yn cael y gefnogaeth a’r gwasanaethau'r maent eu hangen.

Bag Packing for MNDa

Stondin yn Ysbyty Gwynedd

Mae gennym stondin yn Ysbyty Gwynedd ble y byddwn yn gwerthu nwyddau sydd wedi eu rhoddi. A oes gennych chi rywbeth y gallwn werthu? Unrhyw anrhegion nad oes eu hangen? Rhywbeth yr ydych wedi ei weu neu ei wneud?

Cysylltwch os gwelwch yn dda os oes gennych rywbeth i’w gynnig, neu dewch draw i ddweud Helo pan fyddwch yn gweld ein stondin.
Dyma ddyddiadau y stondin yn Ysbyty Gwynedd yn 2020:

  • 6 Ionawr
  • 7 Chwefror
  • 9 Mawrth
  • 15 Ebrill
  • 1 Mai
  • 22 Mehefin
  • 10 Gorffennaf
  • 3 Awst
  • 18 Tachwedd

 

Bucket Collection at Tesco

MNDA Support Meeting

Cyfarfod Nesaf

Mae'r cyfarfod cefnogi nesaf yn Ty Golchi, Caernarfon Road, Bangor LL57 4BT ar Ddydd Mercher Medi 11 am 2:30yh.

MND Connect - 0808 802 6262

Donate to MNDA

Rhoddi

JustGiving
Mae gennym dudalen JustGiving ble gallwch wneud rhodd ar-lein - cliciwch yma

 

© 2024 Cymdeithas Clefyd Motor Niwron Gogledd Orllewin Cymru. Cedwir pob hawl. Gwefan wedi'i Dylunio a'i Noddi gan Delwedd.