Os yr ydych yn byw gyda, neu yn agos i rywun gyda chlefyd motor niwron, yna gallwch ddod o hyd i gyfoeth o wybodaeth ddefnyddiol ar wefan Cymdeithas Clefyd Motor Niwron.
Ar y wefan yma ceir adrannau ar reoli symptomau a bywyd dyddiol gyda CMN, gwybodaeth am driniaeth, gofal a chefnogaeth ariannol yn ogystal ag adnoddau i lawr lwytho neu archebu.
Ceir yno hefyd siop ar-lein ble y gallwch brynu anrhegion a nwyddau gan wybod fod pob un pryniant y gwnewch yn helpu i wneud gwahaniaeth i bobl sy’n byw gyda CMN a’u teuluoedd.
Ni fydd y wefan yma yn ailadrodd beth sydd i’w weld ar wefan Cymdeithas Clefyd Motor Niwron. Ein nod yw darparu gwybodaeth ar lefel lleol, felly cewch wybod am ein cyfarfodydd ac am gyfleoedd i wirfoddoli, yn ogystal â dod i wybod pwy fydd eich pobl cefnogi yn lleol.
Arweinlyfr gwybodaeth i bobl a Chlefyd Motor Niwron yng Ngogledd Cymru - cliciwch yma
Bydd ein cyfarfod nesaf ar 14/06/23 am 2:30pm yn Ty Golchi, Bangor, Gwynedd, LL57 4BT
MND Connect - 0808 802 6262
© 2023 Cymdeithas Clefyd Motor Niwron Gogledd Orllewin Cymru. Cedwir pob hawl. Gwefan wedi'i Dylunio a'i Noddi gan Delwedd.