Mae'r cyfarfodydd ar gyfer pobl sy'n byw gyda CMN ac aelod o'u teulu neu ofalwr. Maent yn anffurfiol ac yn gyfeillgar ac nid oes agenda. Cynhelir hwy gan wirfoddolwyr o'r Grŵp Cefnogi Gogledd Orllewin Cymru. Cewch groeso cynnes a gallwch aros am ychydig o funudau neu aros am y cyfarfod cyfan.
Fel rhan o’r cyfarfod byddwch yn gallu dewis diod a theisen a bydd hyn yn cael ei ariannu gan y grŵp cefnogi. Ni fydd pob diod neu deisen yn addas os oes gennych anghenion dietegol penodol. Bydd yn rhaid i chi benderfynu beth sy’n addas i chi. Nid ydym yn gallu cynghori na chymryd cyfrifoldeb am yr hyn yr ydych yn ddewis.
Dyddiadau ein cyfarfodydd nesaf yn 2026 yw:
Dydd Mercher, Chwefror 11 am 2:30yh
Dydd Mercher, Mawrth 11 am 2:30yh
Dydd Mercher, Ebrill 8 am 2:30yh
Dydd Mercher, Mai 13 am 2:30yh
Dydd Mercher, Mehefin 10 am 2:30yh
Dydd Mercher, Gorffennaf 8 am 2:30yh

Mae'r cyfarfod cefnogi nesaf yn Ty Golchi, Caernarfon Road, Bangor LL57 4BT ar Dydd Mercher, Chwefror 11 am 2:30yh
MND Connect - 0808 802 6262
© 2026 Cymdeithas Clefyd Motor Niwron Gogledd Orllewin Cymru. Cedwir pob hawl. Gwefan wedi'i Dylunio a'i Noddi gan Delwedd.