Roedd yn braf gweld pawb yn ein cyfarfod cyntaf o 2025. Diolch i Kathryn Keir o Ystafell De Tyddyn Mawr yng Nghwmystradllyn am ddod atom i gyflwyno rhodd o £739, a godwyd mewn cyngerdd er cof am ei thad a gollodd i Fotor Niwron ddeg mlynedd yn ôl. Roedd yn gyfle hefyd i weld y tabardau newydd sy'n cael eu modelu gan Georgina a Vera.
Roedd yn braf cyfarfod Donna Owen yn ystod cyfarfod o'n Grŵp Cefnogi heddiw. Mae brawd, Gavin Morris o Gaergybi, yn byw Gyda Chlefyd Motor Niwron, ac ym mis Medi fe gerddodd 100 milltir i godi arian i'n grŵp. Gyda phobl wedi noddi ar JustGiving hefyd, llwyddodd Donna i godi cyfanswm o £1205! Yn y llun gwelir Donna gyda Bill Griffiths, Trysorydd y grŵp, a Jennifer Roberts, Ysgrifennydd y grŵp.
Ar Ddydd Sadwrn Medi 7fed, cynhaliwyd taith noddedig 12 awr ar feiciau modur gan y Conwy Valley Enduro Club i godi arian i'n grwp. Codwyd £2265 ac rydym yn diolch yn fawr i'r Enduro Club ac i bawb oedd wedi eu noddi mor ffeind a hael. Aeth ein Trysorydd Bill Griffith draw i'r clwb i dderbyn yr arian.
Bu ein grŵp yn cynnal casgliad yn Morrisons, Caergybi ar Ddydd Iau Awst 22, ble casglwyd £348.95. Diolchwn yn fawr iawn i Morrisons a'u cwsmeriaid am gefnogi ein helusen a gwneud gwahaniaeth i bobl sy'n byw gyda Chlefyd Motor Niwron yn ein hardal.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau Casglu Arian Yn Morrisons, Caergybi
Diolch yn fawr iawn i'r holl wirfoddolwyr ddaeth i Bwllheli i gasglu arian i'n grŵp ar Awst 14eg. Rhyngddynt casglwyd £466.94 i gynorthwyo pobl sy'n byw gyda Chlefyd Motor Niwron yn yr ardal.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau o'r Gwirfoddolwyr ym Mhwllheli
Mae Lynwen Elena Griffith yn gwirfoddoli fel Ymwelydd Cysylltiol (AV) i'n grŵp ac mae hi wedi bod yn brysur yn codi arian. Gyda chefnogaeth ei ffrindiau fe gynhaliodd Ocsiwn ar y cyfryngau cymdeithasol, a bore coffi yng Nghlwb Rygbi Efailnewydd ar Orffennaf 28. Dyma'r swm a godwyd tuag at bobl sy'n byw gyda Chlefyd Motor Niwron yn yr ardal yma - £5,792,75!! Dywed Lynwen "Diolch i bawb, a diolch i HSBC Pwllheli am y cyfraniad o £2,000 tuag at yr achos. Mae’r holl roddion a chefnogaeth y gymuned wedi bod yn anhygoel. Mae’r achos yma yn agos at fy nghalon, nid yn unig drwy fy ngwaith gwirfoddoli ond oherwydd ffrind arbennig sydd werth y byd i lawer ohonom sydd yn brwydro'r clefyd yma." Gwelir Lynwen (ail o'r dde) gyda rhai o'r bobl oedd yn ei chefnogi.
Bu ein grŵp yn cynnal casgliad yn Tesco Extra, Caergybi ar y ddau ddiwrnod yma. Diolchwn yn fawr i bawb fu'n gwirfoddoli ac i bawb a gyfrannodd a helpu i gasglu £1,155.67.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau Casglu Arian Yn Tesco Extra, Caergybi
Aeth ein grŵp i gynnal casgliad yn Morrisons, Caernarfon Ddydd Sadwrn Gorffennaf 20, ble casglwyd £485.39. Diolchwn yn fawr iawn i Morrisons am gefnogi ein helusen, a diolchwn i'r cwsmeriaid a gyfrannodd i gefnogi pobl sy'n byw gyda Chlefyd Motor Niwron yn ein hardal.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau Casglu Arian Yn Morrisons, Caernarfon
Bu ein grŵp yn cynnal casgliad yn Tesco Extra, Bangor ar Ddydd Gwener Mehefin 7 a Dydd Sadwrn Mehefin 8. Casglwyd £1,047.68 dros y ddau ddiwrnod, a diolchwn yn fawr i'r holl wirfoddolwyr ac i gwsmeriaid Tesco.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau Casglu Arian Yn Tesco Extra, Bangor
Rydym yn falch iawn o gael rhannu ffilm fer gyda chi am y gwaith mae Cymdeithas Clefyd Motor Niwron yn ei wneud yng Nghymru. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno gyda'n tîm arbennig o wirfoddolwyr, yna mae gennym nifer o gyfleoedd ar gael. Am sgwrs anffurfiol cysylltwch gyda jo.cunnah@mndassociation.org.
Diolchwn i'r gwirfoddolwyr fu yn casglu arian yn ASDA Pwllheli ar Ddydd Sadwrn Chwefror 17. Casglwyd £682.31 ar y diwrnod. Wedyn mewn noson Bingo yn Edern, ble tynnwyd raffl a roddwyd gan Asda, fe godwyd £169.00 arall, sy’n gwneud cyfanswm gwych o £852.31. Bydd yr arian yma yn mynd i gefnogi pobl sy'n byw gyda Chlefyd Motor Niwron yn ein hardal.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau o casglu arian yn Asda Pwllheli.
Mae caffi Tŷ Golchi wedi bod ar gau am ychydig o fisoedd oherwydd tân, ond heddiw cafodd ein grŵp ddychwelyd yno ac roedd yna groeso cynnes i ni fel arfer. Mae'r cyfarfodydd yma ar gyfer pobl sy'n byw gyda CMN ac aelod o'u teulu neu ofalwr. Maent yn anffurfiol ac yn gyfeillgar ac nid oes agenda. Cynhelir hwy gan wirfoddolwyr o'r Grŵp Cefnogi Gogledd Orllewin Cymru ac fe gewch groeso cynnes. Byddwn yn cyfarfod ar yr ail Ddydd Mercher o'r mis (am 2:30yh), a gallwch aros am ychydig o funudau neu aros am y cyfarfod cyfan.
Mae'r cyfarfod cefnogi nesaf yn Ty Golchi, Caernarfon Road, Bangor LL57 4BT ar Ddydd Mercher Mai 14 am 2:30yh.
MND Connect - 0808 802 6262
© 2025 Cymdeithas Clefyd Motor Niwron Gogledd Orllewin Cymru. Cedwir pob hawl. Gwefan wedi'i Dylunio a'i Noddi gan Delwedd.