MNDA-North-West-Wales-Group-Banner-cymraeg

Archif - Newyddion & Digwyddiadau 2023

29 + 30.09.23 Casglu Arian Yn TESCO Porthmadog

Diolch yn fawr i'r gwirfoddolwyr aeth i gasglu arian yn TESCO Porthmadog ar Ddydd Gwener Medi 29 a Dydd Sadwrn Medi 30. Casglwyd y swm gwych o £1,015.04 i bobl sy'n byw gyda Chlefyd Motor Niwron. Diolchwn yn fawr hefyd i gwsmeriaid hael Tesco.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau Casglu Arian Yn Tesco Porthmadog

 

18 + 19.08.23 Casglu Arian Yn Tesco Extra, Caergybi

Aeth criw bychan o wirfoddolwyr i gasglu arian yn TESCO EXTRA yng Nghaergybi. Diolch i staff Tesco am y croeso, a diolch i'r cwsmeriaiad am eu rhoddion hael. Casglwyd £976.63 dros y ddau ddiwrnod a bydd yr arian yma yn mynd i helpu pobl sy'n byw gyda Chlefyd Motor Niwron yn yr ardal.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau Casglu Arian Yn Tesco Extra, Caergybi.

Bucket Collection at Caernarfon Tesco

19.07.23 Casglu Arian Yn Asda Llangefni

Ar Ddydd Gwener 7fed o Orffennaf cynhaliwyd casgliad yn Asda Llangefni ble casglwyd £269.14 i helpu pobl sy'n byw gyda CMN. Buom yn ffodus iawn i gael help staff HSBC Llangefni a diolchwn iddynt hwy, ac i staff Asda Llangefni, am ein cynorthwyo i gasglu arian.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau o casglu arian yn Asda Llangefi.

Casglu Arian Yn Tesco Caernarfon

17.07.23 Chwilio am Wirfoddolwyr

Buasai'r grŵp wrth ein bodd cael eich cefnogaeth fel y gallwn ni gefnogi pobl sy'n byw gyda MND. Rydym yn chwilio am Godwyr Arian, Gwirfoddolwyr Cefnogol a phobl i ymgymryd rôl Arweinwyr. Gallwn ddod o hyd i rôl sy'n siwtio chi. Person cyswllt yw Jo Cunnah, Cydlynydd Cefnogaeth Ardal jo.cunnah@mndassociation.org TEL: 01604800628.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

woman with woman in wheelchair

05.06.23 Cynrychiolwyr Gofalwyr

A ydych yn gofalu am rywun sy'n byw gyda Chlefyd Motor Niwron? Hoffech chi chwarae rhan allweddol mewn gwneud penderfyniadau am wasanaethau i bobl sy'n byw gyda CMN yng Ngogledd Cymru?

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth / Cliciwch yma am Mynegiant o Ddiddordeb (Saesneg yn unig ar gael)

dyna yn gofalu am ddyn oedrannus

26 + 27.05.23 Casglu Arian Yn Tesco Caernarfon

Ar ddau ddiwrnod braf cynhaliwyd casgliad yn Tesco Caernarfon ble casglwyd £727.67 i helpu pobl sy'n byw gyda CMN yn ein hardal. Hoffwn ddiolch i'r cwsmeriaid am eu haelioni, a hefyd diolch i staff Tesco am y croeso cynnes gawsom. Unwaith eto, diolch o galon i'n gwirfoddolwyr gwych. Diolch hefyd i staff HSBC am ddod i gasglu gyda ni; buasai wedi bod yn amhosib casglu am ddau ddiwrnod heboch.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau o casglu Arian Yn Tesco Caernarfon.

Casglu Arian Yn Tesco Caernarfon

Archif - Newyddion & Digwyddiadau 2022

02.12.22 Casglu Arian Yn Tesco Bangor

Cafodd ein pwyllgor bach ei ymestyn i'w derfynau Ddydd Gwener Tachwedd 25, a Dydd Sadwrn Tachwedd 26 pan gynhaliwyd ein casgliad yn Tesco Bangor. Buom yn ffodus iawn yn wir i gael help staff HSBC lleol a gwnaeth hyn ein galluogi i gasglu rhoddion dros y ddau ddiwrnod cyfan. Os gallwch chi sbario cwpl o oriau nawr ac yn y man i helpu, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda - catherine.roberts@mndassociation.org
Y cyfanswm a godwyd dros y ddau ddiwrnod oedd £1,209.07, a bydd yr arian yma yn mynd i helpu pobl sy'n byw gyda Chlefyd Motor Niwron yn yr ardal. Diolch yn fawr i Tesco, HSBC ac i bawb roddodd arian yn y bwced.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau Casglu Arian Yn Tesco Bangor.

woman with woman in wheelchair

20.10.22 FACTOR-MND Research Study (Saesneg yn unig ar gael)

We would like to invite you to take part in the FACTOR-MND research study. This study investigates how the experience of being a family carer for someone living with MND impacts the carer’s own wellbeing. Our results will help inform current MND services, and future carer support services.

Current MND carers are invited to complete an online survey at https://uea.onlinesurveys.ac.uk/factor-mnd. If you prefer a pen and paper version of the survey, please contact Polly Trucco (see contact details below). We are really pleased to share that 61 family carers have completed the FACTOR-MND survey to date. Our target is 92 carers, and we will be recruiting family carers until the end of this year. If you are interested in taking part and sharing your experiences, we would love to hear from you.

We are also inviting current carers to participate in an online or face-to face interview about their experiences of caring for the person they support, and how they are coping with everyday changes. If you wish to take part in this interview study, please contact Polly Trucco for further information. Carers who took part have said that “it was lovely to talk about these experiences, I’ve been heard, and we need support in this area”.

Contact details: Polly Trucco mnd.research@uea.ac.uk (+44) 07825863389 @FactorMND
A huge thank you to all the people who have already taken part in FACTOR-MND!

woman with woman in wheelchair

20.08.22 Casgliadau Yn Ailddechrau Ar Ôl Covid

Ar Ddydd Gwener Awst 19 a Dydd Sadwrn Awst 20 cawsom gynnal ein Casgliadau Pwced cyntaf ers Covid. Dyma'r tro cyntaf i ni ddefnyddio ein Darllenydd Cerdyn newydd hefyd, ac roedd yn ddefnyddiol iawn gan fod llawer o bobl ddim yn cario arian parod y dyddiau yma. Diolch yn fawr i'n gwirfoddolwyr ffyddlon ac i'r cwsmeriaid ffeind yn Tesco, Porthmadog. Casglwyd £978.20 dros y ddau ddiwrnod!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau.

Defnyddio y darllenydd cerdyn newydd yn Tesco, Porthmadog

09.08.22 Teulu I Ddringo 47 Copa Yn Eryri Mewn 5 Diwrnod!

Dim ond 47 oed oedd Keta Hansen pan fu farw o glefyd Motor Niwron. Yn awr mae ei gwr a'i dwy ferch am ddringo 47 copa yn Eryri - un am bob blwyddyn o'i bywyd. Mae Kevin, Hebe a Violet wedi bod yn codi arian i Gymdeithas Clefyd Motor Niwron ers colli Keta saith mlynedd yn ôl, ac maent wedi codi cyfanswm o £250,000 drwy wneud gwahanol weithgareddau yn ystod yr amser yma. Maent yn cychwyn ar Awst 18, felly cadwch lygaid allan amdanynt.

https://www.justgiving.com/fundraising/streethansenfamily

Diwrnod Byd-eang Ymwybyddiaeth Clefyd Motor Niwron ar Ddydd Mawrth Mehefin 21

03.08.22 Arolwg Effaith Cynnydd Costau Byw (Saesneg yn unig ar gael)

The current cost of living crisis is a real concern for many people, especially for those living with neurological conditions such as MND.

The MND Association, in collaboration with the Wales Neuro Alliance, want to understand your views and experiences so that we can be best placed to advocate on your behalf when meeting with politicians and decision makers, in the autumn, to raise concerns about the impact of the cost of living on people living with neurological conditions and to call for action from the Welsh Government.

With this in mind, we are asking you to spare 5 minutes of your time to answer this short survey. The survey is anonymous, and a report will be developed and shared with you after the summer.

The significant financial costs that come with living with MND can take the form of loss of earnings for the person living with the condition and for their carer. There are costs of buying equipment, mobility aids and carrying out home adaptations and there can be additional costs for help with personal care, cleaning, and childcare. People with MND may also need more heating to stay comfortable and avoid heightened pain, extra electricity to charge assistive technology devices and petrol to get about due to limited transport options.

Furthermore, welfare reforms are compounding poverty and isolation for many within the neurological community. Having a neurological condition is hard enough – it is being made even more difficult by a complex benefits system.

Thank you for your time and support – it is very much appreciated.
Impact of cost of living survey - Wales Neuro Alliance and MND Association click here

woman calculating bills

20.06.22 "Walk to D'feet MND"

Ar Ddydd Sadwrn, Mehefin 18 fe gynhaliwyd 'Walk to D'feet MND' ar hyd promenâd Llandudno i godi ymwybyddiaeth ac arian i Glefyd Motor Niwron. Roedd mor braf gweld pawb yn eu crysau glas ac oren yn cerdded! Diolch i bawb wnaeth gefnogi drwy gerdded a thrwy noddi.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau

Ar Ddydd Sadwrn, Mehefin 18 fe gynhaliwyd 'Walk to D'feet MND' ar hyd promenâd Llandudno i godi ymwybyddiaeth ac arian i Glefyd Motor Niwron. Roedd mor braf gweld pawb yn eu crysau glas ac oren yn cerdded! Diolch i bawb wnaeth gefnogi drwy gerdded a thrwy noddi.

16.06.22 Diwrnod Byd-eang Ymwybyddiaeth Clefyd Motor Niwron ar Ddydd Mawrth Mehefin 21

Dyma neges gan Millie Jenkins (MNDA Senior Policy and Public Affairs Adviser - Wales)

"Global MND Awareness Day is on the 21st of June and the MND Association in Wales are meeting with Peter Fox, our champion of MND, on the steps of the Senedd between 12.00-13.15pm. Peter will be accompanied by MS’s from across all parties to also show their support.

We are aiming to raise awareness of the challenges faced by those who are living with and affected by MND in Wales, highlighting the need to improve access to services, care and research in Wales.

If you are in and around Cardiff, come and join us and members of the Senedd to raise awareness of MND in Wales. If not, keep an eye out on social media to see what we get up to .

If you are able to join us, or would like some more information, please contact Millie via email: millie.jenkins@mndassociation.org or via phone: 01604611790.

Diwrnod Byd-eang Ymwybyddiaeth Clefyd Motor Niwron ar Ddydd Mawrth Mehefin 21

13.06.22 Cofio Roger

Hoffai deulu'r diweddar Roger Sowersby eich gwahodd i ddathliad o'i fywyd fydd yn cael ei gynnal yn y Split Willow yn Llanfairfechan am 2yp ar Orffennaf 16eg. Rydym yn gwybod cymaint yr oedd yn gwerthfawrogi ei gartref, ei ffrindiau a'i gydweithwyr. Dymuniad Roger oedd i ni drefnu'r digwyddiad yma ac edrychwn ymlaen at gyfarfod pawb sy'n gallu dod.

Cofio Roger

07.03.22 Codi Arian Wrth Fentro Ar Y Wifren Gyflymaf Yn Y Byd!

Ar Fawrth 1af, trafaeliodd y brawd a chwaer Robert a Michelle Oldham ar gyflymder o dros 100 myw ar y wifren sip yn Chwarel Penrhyn. Y nod oedd codi arian gan fod eu tad, Barry Oldham, yn byw gyda Chlefyd Motor Niwron. Roedd Michelle wedi teithio o Ynys Manaw a Robert wedi dod o Stockport i gymryd rhan yn y sialens ac fe lwyddont i godi £700 i CMN. Da iawn!

Hanner marathon

01.03.22 GWNEWCH NODYN O'R DYDDIAD! "WALK TO D'FEET MND" AR FEHEFIN 18fed 2022

Dewch at eich gilydd efo teuluoedd a ffrindiau (croeso i blant ac anifeiliaid anwes!) i gerdded 2.4 milltir i helpu codi ymwybyddiaeth ac arian tuag at Glefyd Motor Niwron ar Bromenâd Llandudno (taith addas i gadair olwyn). Cofrestru o 10:30yb a cherdded am 11:00yb
Mae mwy o wybodaeth ar gael gan Rachel Ritchie fundraisingmndnewales@gmail.com

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Ffurflen Noddi – cliciwch yma

June Walk

24.01.22 Rhannwch Eich Stori

Mae hyn yn gyfle da i bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan Glefyd Motor Niwron i ymuno mewn cyfarfod rhithiol er mwyn rhannu eu storiau a’u profiad o gael mynediad i wasanaethau yn The Walton Centre. Mae yna ddau ddyddiad posib, sef ar fore Dydd Mawrth Chwefror 8fed neu ar nos Iau Chwefror 10fed. Mae manylion ar sut i archebu lle ac ymuno yn y cyfarfod ar y poster – cliciwch yma i ddarllen am y cyfarfod rhithiol Healthwatch

Hanner marathon

Archif - Newyddion & Digwyddiadau 2021

05.09.21 Rhedeg Yn Hanner Marathon Leeds I Godi Arian

Bore heddiw fe redodd Shaun Holdsworth, Aled Roberts, Euros Rees a Harry Layton yn ras Hanner Marathon Leeds i godi arian i'r Gymdeithas Clefyd Motor Niwron. Hyd hyn maent wedi codi dros £3000 ac mae'r arian yn dal i ddod i mewn. Gwych! Mae pob punt yn cyfrif, a bydd hyn yn cefnogi pobl sy'n byw gyda CMN, eu teuluoedd a’u gofalwyr, yn ogystal ag ariannu a hyrwyddo gwaith ymchwil. Diolch yn fawr iawn.

Hanner marathon

16.03.21 Cefnogaeth Gan Ymwelydd Cysylltiol Yn Ystod Cyfnod Clo

Mae Lynwen Griffiths yn Nyrs Cymunedol sy'n byw ym Mhwllheli. Pan oedd Lynwen yn edrych ar ôl rhywun gyda Chlefyd Motor Niwron yn ei rôl fel Nyrs Gymunedol bu'n holi am gefnogaeth iddynt. Nid oedd Ymwelydd Cysylltiol yn yr ardal ar y pryd a gofynnwyd iddi a'r hoffai wirfoddoli fel un, yn enwedig gan fod prinder mawr o Ymwelwyr Cysylltiol oedd yn siarad Cymraeg. Drwy'r Cyfnod Clo mae Lynwen wedi parhau gyda'i dyletswyddau fel Ymwelydd Cysylltiol yn cefnogi pedwar o bobl drwy wneud galwadau ffôn neu drwy anfon neges destun. Diolch Lynwen.

Lynwen Griffith

19.02.21 Allwch Chi Helpu Gyda Gwaith Ymchwil?

Mae'r astudiaeth yma yn ymchwilio i newidiadau ym meddwl ac iaith mewn Clefyd Motor Neuron (MND) ac mae angen pobl gyda'r clefyd a phobl sydd ddim gyda'r clefyd i gymryd rhan.
Ffocws yr ymchwil yw sut y gallai rhywun gyda MND brofi newid i'w meddwl a'u hymddygiad. Mae angen pobl sy'n byw gyda MND a phobl sydd ddim yn dioddef o'r clefyd hefyd. Bydd y tasgau yn cael eu gwneud dros Skype/Zoom, a bydd unrhyw un sy'n cymryd rhan yn derbyn taleb siopio gwerth £30.
Allwch chi helpu? Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Participants Wanted For Research Study Poster

Archif - Newyddion & Digwyddiadau 2020

26.10.20 Rhodd o £1,008 Er Cof Am Ŵr a Merch

Yn drist iawn mae Margaret Morris o Lanfairfechan wedi colli ei gŵr a'i merch i Glefyd Motor Niwron. Drwy gynnal gweithgareddau amrywiol mae hi wedi llwyddo i godi £1,008 i'n Grŵp Cefnogi er cof amdanynt. Yn y llun gwelir hi gyda'i wyresau sy'n trosglwyddo'r rhodd a fydd yn helpu dioddefwyr CMN yng Ngogledd Orllewin Cymru.

Clwb Golff Caernarfon Yn Codi Arian

01.10.20 Angen Ymwelydd Cysylltiol (AV)

Allwch chi gefnogi rhywun sy'n dioddef o Glefyd Motor Niwron? Allwch chi ffonio rhywun i weld sut mae pethau'n mynd? Gall bod yn Ymwelydd Cysylltiol fod yn hynod werth chweil gan eich bod yn gallu cynorthwyo unigolyn â CMN a'u teuluoedd yn ystod cyfnodau anodd iawn. Mae cymorth cefnogol a sympathetig y tîm CMN bob amser wrth law.

Cysylltwch gyda'n Cydlynydd Cymorth Ardal am fwy o wybodaeth os gwelwch yn dda ar MND Connect - 0808 802 6262 - mndconnect@mndassociation.org

16.09.20 Clwb Golff Caernarfon Yn Codi Arian

Diolchwn yn fawr i Alwynne Morris Jones a Chlwb Golff Caernarfon am godi arian i'n grŵp. Mr Jones oedd capten y clwb yn 2019, ac yn ystod yr amser yma codwyd £1025.60 i ni yn ystod digwyddiadau codi arian. Rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth a bydd yr arian a godwyd yn cefnogi'r rhai sy'n dioddef o Glefyd Motor Niwron a'u teuluoedd yn yr ardal. Yn y llun gwelir Mr a Mrs Jones yn trosglwyddo'r arian.

Clwb Golff Caernarfon Yn Codi Arian

15.05.20 Ymchwiliad I Effaith COVID-19 Ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Datblygwyd yr arolwg yma fel rhan o ymchwiliad y Senedd i effaith Covid-19 ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Gofynnir i bobl sy'n byw gyda Chlefyd Motor Niwron neu'n gofalu am rywun gyda'r cyflwr i gymryd rhan.

Cymrwch ran yma

Walk To D-feet MND

14.05.20 Raffl Yr Haf - Chwarae ar-lein!

Mae Cymdeithas Clefyd Motor Niwron yn wynebu cwymp aruthrol yn eu hincwm mewn canlyniad i argyfwng COVID-19. Buasai ein grŵp yn ddiolchgar petaech yn gallu ein cefnogi drwy chwarae'r Raffl Haf ar-lein fel y gallwn barhau i gefnogi pobl gyda CMN a'u teuluoedd. Diolch yn fawr.

Cliciwch yma i chwarae

Walk To D-feet MND

19.03.20 'Walk To D-feet MND' WEDI GOHIRIO

Oherwydd y Coronafeirws, mae digwyddiad 'Walk To D-feet MND' ar Fai 16 2020 wedi cael ei ohirio tan 2021.

Walk To D-feet MND

16.03.20 The Soggy Bottom Boy’s Tribute Band Yn Codi Arian

Mae The Soggy Bottom Boy’s Tribute Band yn codi cannoedd o bres i achosion da bob blwyddyn drwy berfformio yn lleol. Eleni roedd ein grŵp cefnogi yn falch iawn o dderbyn £100 ganddynt, a diolchwn i Jim Earl, aelod o'r band, am ddod draw i'n cyfarfod yn Tŷ Golchi.

Bryn Hedd

04.02.20 Cadw Dyddiad Mewn Cof!

Dewch at eich gilydd efo teuluoedd a ffrindiau (croeso i blant ac anifeiliaid anwes!) i gerdded ar hyd promenâd Llandudno i godi ymwybyddiaeth ac arian tuag at Glefyd Motor Niwron. Mae 'Walk To D-feet MND' yn cymryd lle ar Fai 16, 2020 a bydd bob cam yn gwneud gwahaniaeth. Cerddwn mewn gobaith, cerddwn er cof am rywun arbennig a cherddwn gyda'r gobaith y gwelwn fynd yn rhydd o Glefyd Motor Niwron un diwrnod.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Cliciwch yma am ffurflen noddi.

Cliciwch yma am ffurflen gofrestru cerddwr a mwy o wybodaeth (Saesneg yn unig ar gael). Gallwch hefyd gofrestru ar y diwrnod.

Bryn Hedd

Archif - Newyddion & Digwyddiadau 2019

12.12.19 Pacio Bagiau yn M&S Bangor

Diolch yn fawr i holl gwsmeriaid M&S Bangor a roddodd mor hael a mor barod yn ystod ein digwyddiad pacio baciau ar Ddydd Sadwrn Rhagfyr 7fed. Diolch hefyd i'r rheolwr a'r staff am eu croeso cynnes. Daeth cyfanswm y diwrnod i £584.17!

Cliciwch yma am fwy o luniau.

Bryn Hedd

13.11.19 Cyfarfod Cefnogi Mis Tachwedd

Heddiw croesawyd nifer o bobl i'n cyfarfod misol. Galwodd Ted Parr i mewn gyda'i ferch Anne er mwyn cyflwyno siec am £702.54 yn dilyn casgliadau ym Mhwllheli. Ychwanegodd Gloria Williams £60 arall i'r arian mae hi eisoes wedi ei gasglu yn dilyn rhedeg y Great North Run, a daeth Wayne Jones o Siop Spar, Min y Nant, Lon Llanberis, Caernarfon i gyflwyno siec am £250 o'r Blakemore Foundation drwy Gynllun yr Adwerthwyr Annibynnol. Roedd Jenny Scott o Benllech wedi bod wrthi yn brysur yn creu cardiau Nadolig i ni gael eu gwerth ar ein stondin codi arian hefyd.

Cliciwch yma am fwy o luniau

Bryn Hedd

09.10.19 Cyfarfod Cefnogi Mis Hydref

Heddiw, croesawyd Gloria Williams i'n cyfarfod yn Nhŷ Golchi. Rhedodd yn y Great North Run a chododd £800 er cof am ei gwr Alun. Cyflwynodd siec arall hefyd, sef un am £200 gan Tom Williams a gollodd ei fam i CMN. Yn y llun mae Karen (gwirfoddolwr), Jen (ysgrifennydd y grŵp), Gloria a Bill (trysorydd y grŵp).

Cliciwch yma am fwy o luniau

24.09.19 Cyngerdd Elusennol Yn Codi £1000

Yn ôl ym mis Mehefin cynhaliwyd cyngerdd elusennol er budd Cymdeithas Clefyd Motor Niwron a Hopis Dewi Sant gan Gôr y Penrhyn a'r Stavanger Brass Band er cof am Alun Williams, aelod o'r côr a gollodd ei fywyd i CMN. Neithiwr roedd Richard Shackelford o Gymdeithas CMN yn falch o gael mynd draw i ymarfer y côr yn Neuadd Ogwen, Bethesda, ble y cyflwynwyd siec o £1000 iddo gan Gloria Williams a Haydn Davies, cadeirydd y côr. Diolch yn fawr iawn Côr y Penrhyn!

Bryn Hedd

12.09.19 Cyflwyno Tystysgrif Partneriaeth

Ar Fedi 10fed, cyflwynwyd Tystysgrif Partneriaeth i Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gan Gymdeithas Clefyd Motor Niwron yn y diwrnod astudio a drefnwyd gan y Grŵp Cynghori’n Benodol Ar Glefyd MND yn BIPBC. Yn y llun gwelwn Annette Morris, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Niwrowyddorau BIPBC a Dr Liz Williams, Cadeirydd y Grŵp Cynghori’n Benodol Ar Glefyd MND yn derbyn y dystysgrif partneriaeth gan Dr Nicholas Cole, pennaeth ymchwil Cymdeithas MND.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Cliciwch yma i weld mwy o luniau

Bryn Hedd

04.09.19 Roger Sowersby Yn Ymddeol Fel Cadeirydd

Yn ystod ein cyfarfod misol yn Tŷ Golchi heddiw, cyflwynwyd rhodd i Roger Sowersby gan Jo Cunnah (Cydlynydd Datblygu Gwirfoddolwr Cymru, Gogledd Iwerddon ac Ynys Manaw) am ei holl waith caled yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd y grŵp. Rydym yn falch o glywed ei bydd yn parhau i ddod i'r cyfarfodydd ac i gymryd rhan mewn codi arian.

poster

23.07.19 Sgwrs Gan Feicwyr 'O Asia i Ynys Môn'

Daeth dros 150 o bobl i Ganolfan Biwmares ar nos Wener Gorffennaf 19eg i wrando ar Andy Fowell, Steve MacVicar a Roger Thomas. Roedd yn noson addysgiadol a hwyliog amdan eu taith epig ar feic o Asia (Istanbul) i Ynys Môn (Caergybi) i godi arian. Ar ddiwedd y noson datgelwyd y cyfanswm a derbyniodd Cymdeithas Clefyd Motor Niwron a Hosbis Dewi Sant £10,131.25! Ardderchog!

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

Bryn Hedd

17.07.19 Codi Arian gyda BBQ a PITSA

Ar Ddydd Sul, Gorffennaf 14, fe gynhaliwyd BBQ a Phitsa yn Bryn Hedd, Penmaenmawr gan Rotari Llanfairfechan a Penmaenmawr er budd Grwp Cefnogi CMN Gogledd Orllewin Cymru. Braf oedd gweld cymaint o bobl yno ar brynhawn cynnes ac fe gafodd bawb amser da!

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

Bryn Hedd

25.06.19 BBQ a PITSA

Mae Rotari Llanfairfechan a Penmaenmawr yn cynnal digwyddiad BBQ a Phitsa yn Bryn Hedd, Penmaenmawr ar Ddydd Sul, Gorffennaf 14. Mae'r hwyl yn cychwyn am hanner dydd ac yn parhau tan 4yp. Bydd yr holl elw yn mynd i'n grwp a bydd yn cael ei ddefnyddio i helpu'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gyda Chlefyd Motor Niwron yn yr ardal. Fe welwn ni chi yno!
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

poster

22.06.19 Casglu Arian yn Tesco Llandudno

Ar ddiwrnod poeth o haf roedd ein gwirfoddolwyr caredig yn brysur yn casglu arian yn Tesco, Cyffordd Llandudno. Roedd yn hawdd iawn darganfod gwirfoddolwyr erbyn heddiw oherwydd daeth 4 o aelodau staff HSBC Llandudno i'r adwy a da oedd eu cyfarfod. Roedd cwsmeriaid Tesco yn hynod o hael unwaith eto ac fe gasglwyd dros £1000!! Gwych! Diolch yn fawr i Tesco, i'n gwirfoddolwyr ac i bawb roddodd arian at yr achos.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

gwirfoddolwr

23.05.19 Beicwyr O Asia i Ynys Môn Yn Dychwelyd

Llongyfarchiadau mawr i Andy Fowell, Steve MacVicar a Roger Thomas sydd wedi cwblhau eu siwrne beicio epig o Istanbul i Gaergybi heddiw. Drwy feicio 65 milltir bob diwrnod ar gyfartaledd am bron i ddeufis maent wedi trafeilio cyfanswm o 5,500 milltir, drwy bedwar mynydd ar yr hyd yr hyn a adnabyddir fel "the iron curtain cycle trail". Maent wedi llwyddo i godi dros £20,000 hyd hyn at ddwy elusen, Cymdeithas Clefyd Motor Niwron a Hosbis Dewi Sant. Roedd tyrfa dda yno i'w croesawu ar ôl iddynt groesi dros y bont i Ynys Môn, ac fe gafodd disgyblion o Ysgol Treffos y fraint o dicio i ffwrdd yr olaf o'r un ar bymtheg gwlad yr oeddynt wedi pasio drwodd ac a oedd wedi eu rhestru ar eu crysau T. Os yr hoffech gefnogi'r tri yna cliciwch yma os gwelwch yn dda

Cliciwch yma am fwy o luniau.

Asia to Anglesey Cyclists Return

19.05.19 Cyngerdd Elusennol gan y Stavanger Brass Band a Chôr y Penrhyn

Am 7yh ar Ddydd Sadwrn Mehefin 1af yng Nghadeirlan Bangor bydd Band Pres Stavanger a Chôr y Penrhyn yn perfformio mewn cyngerdd elusennol er budd Cymdeithas Clefyd Motor Niwron a Hopis Dewi Sant.

Mae'n argoeli i fod yn noson dda iawn o adloniant. Mae Band Pres Stavanger o Norwy wedi bod yn fuddugol mewn sawl cystadleuaeth band pres yn Ewrop, ac mae Côr y Penrhyn, gyda'u wreiddiau ym mhentref chwarelyddol Bethesda yn Nyffryn Ogwen, yn enwog am eu perfformiadau graenus sy'n cynnwys hen ffefrynnau a darnau cyfoes.

Cliciwch yma am docynnau sy'n costio £10, neu talwch ar y drws ar y noson.

Cyngerdd Elusennol

14.05.19 Baneri Newydd

Ar Ddydd Gwener Mai 10fed cynhaliwyd stondin wybodaeth yn Llyfrgell Pwllheli ble'r oeddem yn falch o ddadorchuddio ein baneri lliwgar newydd. Ar y baneri gwelwn Sioned Roberts Jones a Roger Sowersby, dau berson sy'n byw gyda CMN yng Ngogledd Orllewin Cymru. Rydym yn ddiolchgar i Sional am wneud baneri mor drawiadol, ac edrychwn ymlaen at eu dangos ymhellach yn ystod y digwyddiadau codi arian sydd ar y gweill yn ystod yr haf.

Cyfarfod Mis Mawrth

10.04.19 Cyfarfod Mis Ebrill

Heddiw, croesawyd Maggie Morris i'n cyfarfod yn Nhy Golchi. Rhoddodd siec o £ 800 i'n Trysorydd, Bill Griffiths, er cof am ei merch annwyl Anwen Gibson o Ddwygyfylchi.

Cliciwch yma am fwy o luniau.

Cyfarfod Mis Ebrill

20.03.19 Cyfarfod Mis Mawrth

Roedd yn bleser croesawu Suzanne Simpson o Ganolfan Walton i'n cyfarfod ym mis Mawrth. Mae Suzanne yn mynd o amgylch yn ymweld â grwpiau a changhennau yn ei swydd fel Ymgynghorydd CMN ar Les Seicolegol a Chymorth Cymdeithasol. Yma gwelir hi'n eistedd yn y rhes flaen gyda Chadeirydd y grŵp Roger Sowersby ar y dde.

Cyfarfod Mis Mawrth

14.02.19 Cystadleuaeth Bysgota yn Ebrill

Yn galw ar bob pysgotwr - dyma gyfle i chi gymryd rhan mewn cystadleuaeth bysgota A chodi arian i'r Gymdeithas CMN!
Dyddiad: Ebrill 13
Lleoliad: Morglawdd Caergybi
Amser: 4yh - 12yb

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Cliciwch yma i fynd i wefan un o'r noddwyr

Cystadleuaeth Bysgota yn Ebrill

12.02.19 Digwyddiadau Codi Arian Ar Gyfer O Asia i Ynys Môn

Mae O Asia i Ynys Môn wedi trefnu dau ddigwyddiad hwyliog mis nesaf cyn y byddant yn hedfan i Istanbul. Mae'r cyntaf ar Ddydd Sadwrn Mawrth 9fed ble bydd Steve MacVicar, Andy Fowell a Roger Thomas yn beicio o amgylch Ynys Môn ac yn ymweld â phob un o dafarndai'r Bulls sydd ar yr ynys. Mae croeso i chi ymuno a hwy, unai drwy feicio rhan (neu'r cyfan!) o'r ffordd, neu drwy alw yn un o'r tafarndai. Byddant y falch o'ch gweld.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Yr ail ddigwyddiad yw Noson Geltaidd gyda Band y Braich Melyn yng Nghanolfan Biwmares ar nos Wener Mawrth 15fed. Bydd yna gerddoriaeth byw, dawnsio, gwobrau ar y pryd a raffl. Pris mynediad yw £10.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Asia to Anglesey

11.02.19 O Asia i Ynys Môn

Ar Fawrth 28ain bydd Steve MacVicar, Andy Fowell a Roger Thomas yn hedfan i Istanbul yn Nhwrci ac wedyn yn treulio wyth wythnos yn beicio adref ar draws Ewrop i Ynys Môn. Eu nod yw codi £10,000 i'r Gymdeithas Clefyd Motor Niwron a £10,000 tuag at Hosbis Dewi Sant yng Nghaergybi. Dros ddau fis byddant yn beicio 5500 cilomedr, yn croesi 14 gwlad ac yn dringo dros 4 cadwyn o fynyddoedd!

Cliciwch ar eu tudalen Facebook am fwy o wybodaeth ac os gallwch plîs rhowch rodd i'w cefnogi.

O Asia i Ynys Môn

08.02.19 Codi Arian ym mis Chwefror

Diolch yn fawr i Pat Jones (Pencampwr Elusen) am roi caniatâd i ni gasglu i Grwp Cefnogi CMN Gogledd Orllewin Cymru yn Tesco Bangor ar Ddydd Sadwrn, Chwefror 2il. Roedd y cwsmeriaid yn hael iawn ar ddiwrnod oer a rhewllyd ac fe godwyd £992.01! Mae gennym dîm gwych o wirfoddolwyr sy'n haeddu ein canmoliaeth yn arbennig Roger a deithiodd gyda bws i Fangor, ac ymlaen wedyn i Tesco yn ei gadair olwyn, sydd yn dipyn o ffordd! Hefyd, ar Ddydd Llun Chwefror 4ydd fe wnaeth ein stondin yn Ysbyty Gwynedd godi £173.25, sy'n gwneud cyfanswm o £1,165.26p!

DIWEDDARIAD: Ar Ddydd Gwener Chwefror 15fed aeth ein gwirfoddolwyr gweithgar i Tesco Caernarfon ble codwyd £517.62, sy'n dod a chyfanswm Chwefror i £1,682.88! Diolch i bob un ohonoch a gefnogodd ein casglwyr.

Cliciwch yma am fwy o luniau.

Codi Arian ym mis Chwefror

Archif - Newyddion & Digwyddiadau 2018

01.12.18 Pacio Bagiau yn M&S Bangor

Diolch yn fawr i holl gwsmeriaid M&S Bangor a roddodd mor hael a mor barod yn ystod ein digwyddiad pacio baciau ar Ddydd Sadwrn Rhagfyr 1af. Diolch hefyd i'r rheolwr a'r staff am eu croeso cynnes. Daeth cyfanswm y diwrnod i £506.46!

Cliciwch yma am fwy o luniau.

Pacio Bagiau yn M&S Bangor

26.11.18 Cydlynu Gofal CMN Gogledd Cymru – Diweddariad

Fe lansiwyd gwasanaeth Cydlynu Gofal CMN Gogledd Cymru yn Chwefror 2017 pan gychwynnodd Kathryn Lancelotte ac Angela Mitchell weithio fel Cydlynwyr Gofal CMN. Maent yn cael eu cyflogi gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ac yn cael eu hariannu drwy grant gan Gymdeithas CMN yn dilyn codi arian drwy'r Sialens Bwced Rhew. Roedd y grant yn parhau tan Hydref 2018 gydag ymrwymiad gan y Bwrdd Iechyd i barhau gyda'r ariannu pe bai'r gwasanaeth yn cyrraedd yr amcanion a gytunwyd.

Roedd yr amcanion yma yn cynnwys:

  • darparu gweithiwr allweddol i bobl sy'n byw gyda CMN yng Ngogledd Cymru a'u gofalwyr
  • darparu un man cyswllt i wasanaethau CMN yng Ngogledd Cymru i bobl sydd yn cael eu heffeithio gan CMN yn ogystal â gweithwyr iechyd proffesiynol
  • cefnogi pobl sy'n byw gyda CMN yn ystod cyfnodau mewn ysbytai a lleihau hyd y cyfnodau yma

Llwyddwyd i gyrraedd yr amcanion yma o fewn 13 mis a dechreuwyd y broses i gael cytundeb ar barhau i ariannu'r gwasanaeth ar Fawrth 13 eleni drwy gyflwyniad i'r Bwrdd Iechyd gan Sally Light, Prif Weithredwr Cymdeithas CMN. Yn dilyn sawl cyfarfod anodd arall cafwyd cadarnhad ar Fedi 5ed y bydd y Bwrdd Iechyd yn ariannu'r gwasanaeth yn y dyfodol.

Tra yr ydym yn dathlu parhad y ddwy swydd Cydlynydd Gofal CMN, nid ydym yn fodlonus ac rydym yn cydnabod fod yna fwy y gallwn ei wneud i wella gwasanaethau CMN yng Ngogledd Cymru. Mae Grwp Llywio Cydlynu Gofal CMN yn parhau i gyfarfod ac mae amcanion newydd yn y broses o gael eu cytuno gyda'r Bwrdd Iechyd. Rydym yn ffodus fod y Bwrdd Iechyd yn cydnabod yr arbenigedd a'r wybodaeth o fewn Cymdeithas CMN a'u bod wedi gofyn i Kevin Thomas, Ymgynghorydd Datblygiad Gofal Rhanbarthol, i barhau i fod yn aelod o'r Grwp Llywio Cydlynu Gofal CMN.

Mwy o wybodaeth am Kevin Thomas a Kathryn Lancelotte - cliciwch yma

Cydlynu Gofal CMN Gogledd Cymru

18.10.18 Tudalen JustGiving Newydd

Mae gennym dudalen JustGiving newydd ar gyfer codi arian i'n grwp! Os yr hoffech wneud rhodd er mwyn darparu cefnogaeth i bobl leol gyda MND, eu teuluoedd a'u gofalwyr, yna cliciwch yma.

Diolch o galon.

MND North West Wales Support Group

28.09.18 Prynhawn Coffi yn Llwyddiant

Diolch yn fawr iawn i griw o ferched Bethel am gynnal Prynhawn Coffi i godi arian i CMN a Macmillan. Roedd stondinau, raffl a thombola. Daeth nifer dda o bentrefwyr i gefnogi a chodwyd dros £700! Ardderchog!

Cliciwch yma i weld y lluniau.

Prynhawn Coffi yn Bethel

12.09.18 Cadeirydd Cangen Manceinion A'r Cyffiniau Yn Galw I Mewn

Roedd yn bleser croesawu Phill Bennet i'n cyfarfod ym mis Medi. Ef yw Cadeirydd Cangen Manceinion A'r Cyffiniau o Gymdeithas Clefyd Motor Niwron. Roedd o ar ei wyliau yn yr ardal pan glywodd am ein cyfarfod gan un o'r criw oedd yn casglu arian yn Tesco Porthmadog ar Fedi 7fed. Codwyd £720.14 ar y diwrnod yma a diolchwn yn fawr i holl gwsmeriaid Tesco am eu cefnogaeth.

Cliciwch yma i weld y lluniau.

Roedd hefyd yn braf croesawu Ted Parr a'i ferch Ann i'r cyfarfod. Roedd yno i gyflwyno siec am £750 - codi arian gwych Ted!

Cliciwch yma i weld y lluniau.

Cadeirydd Cangen Manceinion A'r Cyffiniau Yn Galw I Mewn

01.09.18 Prynhawn Coffi

Os yr ydych yn rhydd am 2yp ar Ddydd Gwener, Medi 28 yna mae croeso i chi ddod draw i Neuadd Goffa Bethel am goffi a theisen. Bydd yna stondinau a raffl, a chyfle i gymdeithasu wrth godi arian i Grwp Cefnogi Gogledd Orllewin Cymru.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Prynhawn Coffi

18.07.18 Trysorydd yn Ymddeol ar ôl 25 Mlynedd

Heddiw fe ymddeolodd John Williams o'i swydd fel Trysorydd Grwp Cefnogi CMN Gogledd Orllewin Cymru. Bu yn Drysorydd am bum mlynedd ar hugain, yn ogystal â bod yn Ysgrifennydd am lawer o'r blynyddoedd yna hefyd. Diolchwn yn fawr i John am ei waith caled ar ran CMN ac edrychwn ymlaen at barhau i'w weld yn ein cyfarfodydd. Yn y llun gallwn weld John, (ar y chwith) gyda'r Trysorydd newydd, Bill Griffiths.

Trysorydd yn Ymddeol

13.07.18 Grŵp Cefnogi Gogledd Orllewin Cymru yng Nghylchgrawn Chwarterol Cymdeithas Clefyd Motor Niwron

Mae hanes ein grŵp ni yn "Thumb Print", cylchgrawn ein helusen, y mis yma - y tro cyntaf erioed iddynt gael erthygl yng Nghymraeg! Rydym ar dudalen 6 a 7 - cliciwch yma i ddarllen yr e-lyfr neu cliciwch yma i ddarllen y pdf.

2 berson

11.07.18 Stondin yn Ysbyty Gwynedd

Diolch i bawb gefnogodd ein stondin yn Ysbyty Gwynedd heddiw - gwnaethpwyd cyfanswm o £167.81!

2 berson

06.07.18 Casglu yn Tesco Extra, Bangor

Dyma dîm o gasglwyr yn Tesco Extra ym Mangor. Unwaith eto roedd y cwsmeriaid yn hael IAWN a chasglwyd £799.55!! Swm ardderchog ynte? Diolch i bawb am eich amser ac ymdrech a diolch arbennig i aelodau Clwb Rotary Llanfairfechan a Phenmaenmawr (a Lykke o'n Clwb Inner Wheel) i gamu i'r adwy i achub y dydd - gwerthfawrogwn hyn yn fawr!

Cliciwch yma i weld y lluniau.

3 person

16.06.18 Walk to D'feet MND

Ar Ddydd Sadwrn, Mehefin 16 fe gynhaliwyd Walk to D'feet MND ar brom Llandudno. Diolch yn fawr i bawb ddaeth i gerdded, a diolch yn arbennig i bawb sydd wedi ein noddi.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau.

3 person

13.06.18 Cyflwyno Siec

Roeddem yn falch o groesawu Gwen Owen ddaeth draw i'n cyfarfod misol i gyflwyno siec am £100 i'r grŵp. Dyma hi gyda John Williams a Roger Sowersby.

3 person

25.05.18 ' The Big Charity Quiz'

Bydd y 'Big Charity Quiz' yn cael ei gynnal ar nos Wener Gorffennaf 13 gyda'r elw yn mynd i Gymdeithas Clefyd Motor Niwron. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

poster

14.05.18 Cyngerdd Gala Pen-blwydd Cantorion Sirenian

Am 7:30yh ar Fehefin 9fed bydd y Cantorion Sirenian yn perfformio'r Mozart Requiem yn Eglwys St Giles, Wrecsam. Yn cymryd rhan bydd yr unawdwyr Fflur Wyn (Soprano), Oliver Sammons (Bariton), Andrew Powis (Tenor) and Chloe Pardoe (Mezzo). Bydd pob elw o'r cyngerdd yn cael ei roddi i'r Gymdeithas Clefyd Motor Niwron. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth. Cliciwch yma i brynu tocynnau.

poster

09.05.18 Casglu Arian Yn Tesco Bangor Ym Mis Gorffennaf

Yn ystod ein cyfarfod misol cafwyd apêl am wirfoddolwyr i gynorthwyo gyda'r casglu arian yn Tesco Bangor ar Ddydd Gwener Gorffennaf 6ed 2018. Allwch chi sbario dwy awr? Os gallwch yna cysylltwch os gwelwch yn dda: Roger Sowersby - rogersowersby@gmail.com

grwp o bobl

24.04.18 "WALK TO D-FEET MND" AR FEHEFIN 16eg

Dewch at eich gilydd efo teuluoedd a ffrindiau (croeso i blant ac anifeiliaiad anwes!) i gerdded 3.5 milltir i helpu codi arian tuag at Glefyd Motor Niwron ar Bier Llandudno. Cofrestru o 10:30yb a cherdded am 11:00yb.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Cliciwch yma am ffurflen gofrestru (Anfonwch hon wedi ei chwblhau i Roger Sowersby i'r cyfeiriad welwch ar y ffurflen os gwelwch yn dda. Gallwn archebu y nifer cywir o grysau T wedyn.)
Cliciwch yma am ffurflen noddi

Cinio Nadolig

18.04.18 Cyfarfod Cefnogi Misol

Roeddem yn falch o gwrdd â Paula a Rupert Leslie o Borthmadog yn Nhy Golchi heddiw. Rhoddodd Paula £450 i'n Trysorydd, John, tuag at helpu cleifion yn ein hardal. Fe godwyd yr arian mewn Noson Merched yn Masonic Lodge St Cyngar, Porthmadog.

grwp o bobl

13.03.18 Cyfarfod Cefnogi Misol

Roedd y teisennau yn hyfryd heddiw yn Nhy Golchi ble cawsom gyfle i rannu profiadau ac i drafod eitemau i'r Cylchlythyr nesaf.

Cliciwch yma am fwy o luniau.

3 person

14.02.18 Lansio Gwefan Newydd Grwp CMN Gogledd Orllewin Cymru

Heddiw yn ein cyfarfod misol roedd y Grwp yn falch iawn o gael lansio ein gwefan dwyieithog newydd ar gyfer y rhai sy'n byw gyda CMN yn yr ardal, eu gofalwyr, eu teuluoedd a'u ffrindiau. Dywedodd Kevin Thomas, Ymgynghorydd Datblygiad Gofal Rhanbarthol, "Mae'n edrych yn ffantastig. Da iawn a diolch yn fawr i'r tim yn Delwedd. Mae'r safle yn gyfeillgar ac yn groesawgar i ddefnyddiwyr".
Diolch o galon i Delwedd am noddi'r wefan.

Cliciwch yma am fwy o luniau.

Lansio Gwefan Newydd Grwp CMN Gogledd Orllewin Cymru

16.01.18 Dathliad o'r Rhwydwaith Gwirfoddolwyr Cefnogol CMN yng Nghymru

Daeth Tywysoges Anne, sy’n Noddwr Brenhinol y Gymdeithas Clefyd Motor Niwron, i Ganolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth i ddathlu'r gwaith a wneir yng Nghymru gan wirfoddolwyr. Cafodd gwrdd â phobl sy’n byw gyda CMN, eu teuluoedd a’u gofalwyr cyn rhoi araith.

Yn y digwyddiad roedd pum aelod o Grŵp Cefnogi CMN Gogledd Orllewin Cymru. Cafodd Kevin Thomas, Jo Cunnah, Roger Sowersby, Jennifer Roberts a Ceri Roberts gyfle i siarad gyda Thywysoges Anne. Ar ôl cinio rhoddodd Jennifer Roberts sgwrs am ei phrofiad o CMN a sut y daeth yn ymglymedig yn gwirfoddoli.

Cliciwch yma am fwy o luniau.

MNDa Wales Volunteer Celebration

MNDa Wales Volunteer Celebration

06.12.17 Cinio Nadolig

Cawsom ginio nadolig hyfryd yn Nhy Golchi heddiw.

Cliciwch yma am fwy o luniau.

Cinio Nadolig

02.12.17 Pacio Bagiau yn M&S Bangor

DIOLCH YN FAWR i bawb ddaeth i bacio bagiau yn M&S Bangor ar Ddydd Sadwrn Rhagfyr 2il.

Diolch i'r rheolwr a'r staff, ac yn enwedig i'r cwsmeriaid a roddodd mor barod ac mor hael i'n cynorthwyo i godi £604.47 i gefnogi dioddefwyr clefyd motor niwron yn ein hardal.

Cliciwch yma am fwy o luniau.

Bag packing at M and S Bangor

MNDA Support Meeting

Cyfarfod Nesaf

Nodyn pwysig: Nid oes cyfarfod yn Ionawr 2025.
Mae'r cyfarfod cefnogi nesaf yn Ty Golchi, Caernarfon Road, Bangor LL57 4BT ar Ddydd Mercher Chwefror 2 am 2:30yh.

MND Connect - 0808 802 6262

Donate to MNDA

Rhoddi

JustGiving
Mae gennym dudalen JustGiving ble gallwch wneud rhodd ar-lein - cliciwch yma

 

© 2025 Cymdeithas Clefyd Motor Niwron Gogledd Orllewin Cymru. Cedwir pob hawl. Gwefan wedi'i Dylunio a'i Noddi gan Delwedd.